Cyfreithiol

Mae NVG yn gweithredu Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru (WTPD) ar ran Croeso Cymru. Mae eich data hefyd yn ddarostyngedig i wybodaeth gyfreithiol Croeso Cymru.

1. CYFLWYNO’CH GWYBODAETH I DDIBENION HYRWYDDO

1.1 Efallai y byddwn yn dymuno rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill fel y gellir ei chynnwys mewn cyhoeddiadau'n ymwneud â thwristiaeth. Does dim sicrwydd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi na’i defnyddio. Os caiff ei defnyddio, byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau cywirdeb. Fodd bynnag, mae’n ddrwg gennym na allant hwy dderbyn atebolrwydd o unrhyw fath yn codi o ddefnyddio neu gyhoeddi’r wybodaeth, un ai gennym ni ein hunain na thrydydd partïon, gan gynnwys lle bo hynny o ganlyniad i unrhyw wall neu hepgoriad ar ran yr hyrwyddwyr twristiaeth.

1.2 O bryd i’w gilydd, efallai y bydd yn angenrheidiol i ni ddiweddaru eich data i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion WTPD. Byddwn yn gwneud ymdrech i roi gwybod i chi am ddiwygiadau i’ch data.

1.3 Nid yw cyflwyno’ch data’n gwarantu y bydd yn cael ei ddefnyddio’n llawn nac yn rhannol gan Croeso Cymru na sefydliadau eraill.

2. DATA A GYFLWYNIR

2.1 Wrth gyflwyno delweddau rydych yn gwarantu y caiff pob delwedd ei defnyddio gan Croeso Cymru a sefydliadau sy’n hyrwyddo twristiaeth a busnesau lleol. Rydych hefyd yn gwarantu, lle bo’n briodol, y sicrhawyd cytundeb unrhyw unigolyn a gynhwysir mewn delwedd yng nghyswllt defnydd o'r fath.

2.2 Rydych yn gwarantu eich bod wedi eich awdurdodi i gyflenwi'r delweddau ac nad yw hyn yn amharu ar nac yn torri unrhyw hawlfraint sy’n bodoli nac unrhyw hawl eiddo deallusol arall.

2.3 Drwy gyflwyno’ch manylion (gan gynnwys delweddau) rydych yn gwarantu bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn wir ac yn gywir ac os caiff ei chyhoeddi na fydd yn drosedd dan unrhyw ddarpariaeth statudol nac yn torri unrhyw godau ymarfer yn ymwneud â hysbysebu neu hyrwyddo gwerthiant.

2.4 Rydych yn ymrwymo i indemnio perchnogion gwefannau ac unrhyw drydydd partïon y cyflenwir y manylion iddynt, yn erbyn unrhyw golled, difrod neu achosion o ganlyniad i dorri'r rhain.

3. CYSYLLTU

Rydym yn croesawu unrhyw gwestiynau, sylwadau a cheisiadau am yr wybodaeth gyfreithiol hon. Dylech eu hanfon at croesocymruhelp@nvg.net.