Polisi Preifatrwydd

Mae Llywodraeth Cymru a’r New Vision Group Ltd (NVG) yn rheolwyr data ar y cyd i ddibenion cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae NVG yn gweithredu Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru (WTPD) ar ran Croeso Cymru a Chronfa Ddata Guestlink ar ran sefydliadau sy’n hyrwyddo twristiaeth a busnesau lleol. Mae prosesu eich data yn rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru drwy wefan CroesoCymru.com / VisitWales.com. Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data gan NVG yw ‘Diddordebau Cyfreithlon’ neu ‘Gontract’. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â data a gasglwyd drwy Wefan RhestruCynnyrch.Cymru. Mae eich data hefyd yn ddarostyngedig i bolisi preifatrwydd Croeso Cymru.

Os nad ydych yn dymuno bod yn rhan o WTPD na Chronfa Ddata Guestlink neu os ydych yn dymuno gweld y data a gedwir gennym am eich busnes, yna cysylltwch â Stiward Data Croeso Cymru ar croesocymruhelp@nvg.net.

1. GWYBODAETH Y GALLWN GASGLU GENNYCH CHI

1.1 Mae’n bosib y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data canlynol amdanoch chi a’ch busnes:

a) Gwybodaeth y byddwch chi’n ei darparu drwy lenwi ffurflenni ar ein Gwefan a ddarperir i chi gan Stiward Data Croeso Cymru. Mae hyn yn cynnwys data a ddarparwyd adeg cofrestru i ddefnyddio’r Wefan, adeg tanysgrifio i’n gwasanaeth ac unrhyw ddeunydd postio ychwanegol, cyfraniadau neu geisiadau am wasanaethau pellach. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn gofyn i chi am wybodaeth pan fyddwch yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu gynigion a noddir gennym ni a phan fyddwch chi’n rhoi gwybod am broblem gyda’n Gwefan.

b) Os byddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno am 30 mis.

c) Mae'n bosib y byddwn hefyd yn gofyn i chi lenwi arolygon yr ydym yn eu defnyddio at ddibenion ymchwil, ond nid oes yn rhaid i chi ymateb iddynt.

d) Manylion trafodion a wneir gennych drwy ein Gwefan.

e) Manylion eich ymweliadau â’r Wefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i ddata trafnidiaeth, data lleoliad, gweflogiau a data cyfathrebu eraill, a’r adnoddau y byddwch yn eu cyrchu.

2. CWCIS A CHYFEIRIADAU IP

2.1 Mae’n bosib y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich dyfais, gan gynnwys, lle bo’r wybodaeth ar gael, eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a math eich porwr, ar gyfer gweinyddu’r system ac i roi gwybodaeth gyfun i’n hysbysebwyr. Data ystadegol am batrymau a gweithgareddau pori ein defnyddwyr yw hwn, ac nid yw'n dweud pwy yw unrhyw unigolyn.

2.2 Am yr un rheswm, mae'n bosib y byddwn ni'n cael gwybodaeth am eich defnydd cyffredinol o'r Wefan drwy ddefnyddio cwci sy'n cael ei chadw ar ddisg galed eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cael eu defnyddio i wneud i’n Gwefan weithio ac i roi gwasanaeth gwell sy'n fwy personol. Gyda'r rhain, gallwn:

a) Amcangyfrif beth yw maint a phatrwm defnyddio ein cynulleidfa.

b) Cadw gwybodaeth am beth sydd orau gennych, sy'n golygu ein bod ni'n gallu teilwra'r Wefan yn ôl eich diddordebau a’ch dewisiadau chi fel unigolyn.

c) Cyflymu eich chwiliadau.

d) Eich adnabod chi pan fyddwch yn dychwelyd i'n Gwefan.

2.3 Y cwcis a ddefnyddir ar ein Gwefan yw:

a) ASP.NET_SessionId - Mae’r cwci yma’n hanfodol ar gyfer gweithredu a llywio drwy’r wefan. Caiff y cwci ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.

b) ASPSESSIONIDSXXXXXXA - Defnyddir y cwci hwn i adrodd ar gamgymeriadau gwefan 404 i gynheilydd ein gwefan. Caiff y cwci hwn ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.

c) _utma, _utmb, _utmc, _utmz - Defnyddir y cwcis hyn gan Google Analytics i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae ymwelwyr yn defnyddio’n safle. Defnyddiwn y wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu ni wella'r safle. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r safle, o ble y daeth ymwelwyr â'r safle a'r tudalennau yr ymwelwyd â hwy. I ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage.gaoptout.

2.4 Yn achos y mwyafrif o borwyr gwe, gallwch gael rhywfaint o reolaeth dros y mwyafrif o gwcis drwy gyfrwng gosodiadau'r porwr. I ddysgu mwy am cwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.

2.5 Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn cwmpasu’r dolenni o fewn y safle hwn sy’n cysylltu â gwefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen yr hysbysiadau preifatrwydd ar wefannau eraill rydych chi’n ymweld â nhw. Darllenwch bolisi dolennu dwyffordd yr ICO am ragor o wybodaeth.

2.6 Efallai y byddwn yn plannu fideos o’n sianel YouTube swyddogol gan ddefnyddio modd YouTube sydd wedi gwella o ran preifatrwydd. Gallai’r modd hwn osod cwcis ar eich dyfais pan fyddwch yn clicio ar chwaraewr fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth o gwcis sy’n galluogi i chi gael eich adnabod yng nghyswllt chwarae fideos sydd wedi’u plannu gan ddefnyddio’r modd sydd wedi gwella o ran preifatrwydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen gwybodaeth YouTube ar blannu gwybodaeth.

3. LLE RYDYN NI’N STORIO EICH DATA

3.1 Mae eich data’n cael ei storio yng nghronfeydd data’r WTPD a Guestlink. Gan fod ein gweinyddion wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig, mae’r data a gasglwn gennych yn cael ei gymryd, ei brosesu, ei storio a’i drawsyrru’n unol â deddfwriaeth diogelu data. Wrth gyflwyno eich data, rydych yn cytuno iddo gael ei gadw a’i brosesu fel hyn. Byddwn yn cymryd pob cam angenrheidiol rhesymol i sicrhau bod eich data'n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

3.2 Caiff yr holl wybodaeth y byddwch yn ei ddarparu i ni ei storio ar ein gweinyddion diogel. Lle rydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu eich bod chi wedi dewis cyfrinair) sy’n eich galluogi i gael mynediad at rannau penodol o’n Gwefan, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair gyda neb.

3.3 Nid yw trawsyrru gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd yn gyfan gwbl ddiogel. Er y byddwn ni'n gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn sicrhau diogelwch y data sy'n cael ei anfon i'n Gwefan ac rydych yn anfon unrhyw wybodaeth ar eich cyfrifoldeb eich hun. Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn rhoi nodweddion diogelwch a gweithdrefnau priodol ar waith i geisio rhwystro unrhyw un heb hawl i gael mynediad ati.

4. Y DEFNYDD A WNEIR O’R WYBODAETH

4.1 Rydym yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch chi a’ch busnes yn y ffyrdd canlynol:

a) I sicrhau bod cynnwys ein Gwefan wedi’i gyflwyno yn y modd sy’n fwyaf effeithiol i chi a’ch dyfais.

b) I ddarparu’r wybodaeth, y nwyddau neu’r gwasanaethau a fydd, yn ein barn ni, o ddiddordeb i’ch busnes. Nodwch, os gwelwch yn dda, os nad oes gennych unrhyw gontractau yn eu lle gallwch ofyn i ni beidio â chyfathrebu â chi. Cysylltwch â croesocymruhelp@nvg.net.

c) Er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau yng nghyswllt unrhyw gontractau sydd wedi'u gwneud drwy ein Gwefan.

d) I’ch galluogi chi i ddefnyddio nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny.

e) I roi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth.

f) I hwyluso cyhoeddi manylion eich busnes ar CroesoCymru.com / VisitWales.com a gwefannau sefydliadau twristiaeth gan ddefnyddio cronfa ddata Guestlink.

4.2 Rydym yn storio manylion llety, lleoliadau a manylion busnes eraill yn ein cronfeydd data i hwyluso eu cyhoeddi ar y wefan hon. Ein sail gyfreithiol dros y prosesu hwn yw ei fod yn angenrheidiol i ddibenion y diddordebau cyfreithlon a ddilynir gan y rheolydd. Mae manylion busnes, yn ôl eu natur, eisoes ar gael i'r cyhoedd ac rydym ni yn eu defnyddio mewn modd y byddai busnesau’n rhesymol yn ei ddisgwyl ac a allai fod o fudd iddynt.

4.3 O bryd i gilydd, mae'n bosib y bydd ein Gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac o wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chyrff cysylltiedig. Os ydych yn dilyn dolen i unrhyw rai o'r gwefannau hyn, cofiwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd yng nghyswllt y polisïau hyn. Edrychwch ar y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau.

5. DATGELU EICH GWYBODAETH

5.1 Mae'n bosib y byddwn yn datgelu eich data i unrhyw aelod o'n grwp ni. Mae hyn yn golygu ein his-gwmnïau, ein prif gwmni a'i is-gwmnïau, yn ôl y diffiniad o'r rhain yn adran 736 o Ddeddf Cwmnïau'r DU 1985.

5.2 Mae'n bosib y byddwn yn datgelu eich data i drydydd partïon:

a) Os byddwn ni'n gwerthu neu'n prynu unrhyw fusnes neu asedau. Mewn achos o'r fath, mae'n bosib y byddwn yn datgelu eich data personol i ddarpar werthwr neu brynwr busnes neu asedau o'r fath.

b) Os byddwn ni neu ein holl asedau fwy neu lai yn dod i feddiant trydydd parti. Mewn achos o'r fath, bydd y data personol sydd gennym am ein cwsmeriaid yn un o'r asedau fydd yn cael eu trosglwyddo.

c) Os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu weithredu ein Telerau ac Amodau a chytundebau eraill; neu i amddiffyn hawliau, eiddo, gwybodaeth gyfrinachol neu ddiogelwch ein Gwefan, ein cwsmeriaid, cyrff cysylltiedig neu eraill ac yn benodol os bydd yn ofynnol i ni atal unrhyw dwyll neu drafodion twyllodrus. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau neu sefydliadau eraill i ddibenion gwarchod rhag twyll a lleihau risg credyd.

6. EICH HAWLIAU

6.1 Mae eich hawliau’n cynnwys gofyn i ni beidio â phrosesu eich data i ddibenion marchnata. Gallwch arfer eich hawl i atal prosesu o'r fath ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni yn croesocymruhelp@nvg.net.

6.2 Os nad fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gysylltu ag awdurdod goruchwylio’r DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, https://ico.org.uk i nodi eich pryderon.

7. MYNEDIAD AT WYBODAETH

7.1 Gellir gwneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth (SAR) rhesymol heb orfod talu ffi. Caiff ei wneud o fewn mis. Fel rhan o’r SAR, gallwch ofyn i’ch data gael ei gywiro neu ei ddileu.

8. POLISI CADW

8.1 Os byddwch yn rhoi heibio cael eich cyhoeddi ar CroesoCymru.com / VisitWales.com, bydd data yn WTPD yn cael ei ddileu ar ôl 6 mis. Os byddwch yn rhoi heibio cael eich cyhoeddi ar unrhyw wefan ac nad oes gennych unrhyw gontractau gyda Guestlink, bydd eich data’n cael ei ddileu ar ôl 30 mis.

9. NEWIDIADAU I'N POLISI PREIFATRWYDD

9.1 Byddwn yn postio unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol ar y dudalen hon, a, lle bo hynny'n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost.

10. CYSYLLTU

Rydym yn croesawu unrhyw gwestiynau, sylwadau a cheisiadau am y polisi preifatrwydd hwn. Dylech eu hanfon at croesocymruhelp@nvg.net.